Un o awyrennau rhfyel Pacistan (Llun yr awyrlu)
Mae o leiaf chwech hunan-fomiwr wedi ymosod ar ganolfan awyrlu yng ngogledd Pacistan, gan ladd dau swyddog diogelwch ac anafu pennaeth y maes awyr.

Fe gafodd y chwech eu lladd hefyd yn ystod yr ymosodiad yn Kamra, 25 milltir i’r gogledd o’r brifddinas Islamabad, ble mae awyrlu Pacistan yn cadw amryw o awyrennau rhyfel ac yn cynhyrchu arfau ar gyfer awyrennau.

Bu brwydr am ddwy awr rhwng swyddogion diogelwch a’r ymosodwyr a chafodd chwech ymosodwr, oedd yn gwisgo ffrwydron, eu lladd.

Amau’r Taliban

Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad ond yr amheuaeth yw mai’r Taliban ym Mhacistan oedd wedi’i drefnu yn rhan o’u gwrthryfel gwaedlyd yn erbyn y llywodraeth.

Mae ymosodiadau tebyg wedi eu cynnal gan y Taliban ar ganolfannau milwrol eraill ym Mhacistan – yn Karachi ym Mai 2011, ac yn Rawalpindi yn 2009.

Mae ymosodiadau wedi digwydd yn Kamra o’r blaen hefyd ond dyma’r tro cyntaf i ymosodwyr lwyddo i fynd i mewn i ganolfan yr awyrlu ei hun.