Mae gweithiwr dur mewn cyflwr difrifol ar ôl damwain yng ngwaith dur Port Talbot.

Fe gafodd ei gario mewn hofrennydd i Ysbyty’r Brifysgol yng Nghaerdydd ar ôl y digwyddiad ychydig cyn pump o’r gloch neithiwr.

Mae Heddlu De Cymru a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio i’r hyn ddigwyddodd.

Ychydig tros bythefnos yn ôl, fe gafodd y perchnogion, cwmni Tata, ddirwy o £500,000 ar ôl marwolaeth gweithiwr mewn damwain arall.