Julian Assange
Mae storm ddiplomataidd wedi codi ar ôl i Lywodraeth Prydain fygwth mynd i mewn i lysgenhadaeth Ecwador yn Llundain er mwyn arestio Julian Assange.

Mae sylfaenydd gwefan Wikileaks wedi bod yno ers deufis  yn hawlio lloches wleidyddol rhag cael ei anfon i Sweden i wynebu cyhuddiadau o ymosod yn rhywiol.

Mae Ecwador yn cyhuddo Llywodraeth Prydain o “weithred ymosodol” ond mae’r Llywodraeth yn Llundain yn gwadu hynny.

Datgelu cynnwys llythyr

Fe gododd yr helynt ar ôl i weinidog materion tramor Ecwador, Ricardo Patino, ddatgelu cynnwys llythyr a gafodd ei ddanfon ganLywodraeth Prydain at swyddogion ym mhrifddinas Ecwador,  Quito.

“Dylech chi fod yn ymwybodol fod sail gyfreithiol ym Mhrydain, dan Ddeddf Adeiladau Diplomataidd a Llysgenhadaeth  1987, a fyddai’n caniatáu i ni gymryd camau er mwyn arestio Mr Assange yn y Llysgenhadaeth,” meddai’r llythyr.

“Rydym yn gobeithio na fydd rhaid cyrraedd y pwynt yna, ond os nad ydych chi’n medru datrys y mater o bresenoldeb Mr Assange ar eich eiddo, mae hyn yn opsiwn agored i ni.”

Ecwador – cyhoeddi penderfyniad heddiw

Mae disgwyl i Ricardo Patino gyhoeddi heddiw a fydd Julian Assange yn cael lloches wleidyddol gan Ecwador.

Dywedodd fod bygythiad Prydain i fynd i mewn i lysgenhadaeth ei wlad yn “ymosodiad ar sofraniaeth Ecwador” ac yn groes i gyfraith ryngwladol.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor fod ganddyn nhw gyfrifoldeb i estraddodi Julian Assange i Sweden a’i fod yn iawn fod Ecwador “yn cael y darlun llawn.”

“Rydym yn benderfynol o ganfod ateb a fydd yn dderbyniol i ni ac Ecwador,” meddai’r llefarydd.