Himachal Pradesh, India
Cafodd o leiaf 39 o bobol eu lladd wedi i fws orlawn ddisgyn i mewn i geunant yng ngogledd India, meddai’r heddlu.
Dywedodd yr heddwas Raj Kumar bod y gyrrwr wedi colli rheolaeth ar y cerbyd ar dro llym ar ffordd fynyddig yn nhalaith Himachal Pradesh, tua 385 milltir o New Delhi.
Plymiodd y bws dros 100 metr i mewn i’r ceunant.
Ychwanegodd yr heddwas bod yr achubwyr yn parhau wrth eu gwaith, a bod nifer y meirw yn debygol o godi eto.
Mae mwy o bobol yn marw ar ffyrdd India na unrhyw wlad yn y byd. Y llynedd fe fu dros 110,000 o bobol farw.
Mae damweiniau fel arfer o ganlyniad i orlwytho cerbydau, goryrru, a diffyg gwaith cynnal a chadw ar gerbydau.