Jeremy Hunt
Mae’r Gweinidog Diwylliant yn San Steffan  wedi bod yn cael gwersi  iaith diolch i nawdd y  trethdalwr.

Gwariodd Jeremy Hunt, a fu’n gyfrifol  am gyllid S4C tan eleni, £702 ar wersi Mandarin yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

Gwariodd Aelod Seneddol Ceidwadol arall, Nick Boles, £676.80 ar wersi Hebraeg tra bod Edward Leigh, Aelod Seneddol Ceidwadol Gainsborough, wedi derbyn £1,417.45 tuag at ei wersi Eidaleg

Dywedodd llefarydd ar ran Tŷ’r Cyffredin fod y Tŷ’n rhoi sêl bendith i nawdd tuag at “ddysgu iaith dramor neu ddatblygu sgiliau yn unol â’i dyletswyddau seneddol.”

Mae’n debyg fod gan Nick Boles AS bartner Israelaidd ac mae Cynghrair y Trethdalwyr wedi ei feirniadu.

“Mae Nick Boles wedi camddefnyddio’r fantais yma er mwyn gallu sgwrsio’n haws dros y bwrdd brecwast,” meddai Matthew Sinclair.

“Os yw Aelodau Seneddol am ddysgu iaith eu cymar dylen nhw dalu am hynny eu hunain yn hytrach na disgwyl i drethdalwyr dalu’r bil,” ychwanegodd.