Mae clwb pêl-droed Caerdydd wedi cadarnhau fod Craig Bellamy yn ymuno gyda nhw o Lerpwl ar gytundeb dwy flynedd.
Bu Bellamy ar fenthyciad gyda Chaerdydd yn 2010-11 pan oedd ar lyfrau Manchester City ac mae’n symud nôl i’w ddinas frodorol yn dilyn prawf meddygol ddoe.
Mae Prif Weithredwr Caerdydd, Alan Whiteley, wedi diolch i’r perchnogion o Malaysia am eu cefnogaeth wrth ddenu chwaraewyr, ac i Brendan Rodgers a Lerpwl am eu “cymorth a’u cefnogaeth” yn ystod y trafodaethau.
Bydd Craig Bellamy’n gwisgo crys 39 yn ystod y tymor, a choch fydd lliw yr Adar Gleision yn eu gemau cartref.