Llifogydd Beijing
Cafodd 10 o bobl eu lladd ac mae miloedd wedi eu gorfodi i adael eu cartrefi yn China wedi glaw trwm yn ardal Fangshan sy’n cynnwys y brifddinas Beijing.

Cafodd 14,500 o bobl yng ngyffiniau’r brifddinas eu symud o’u cartrefi ac fe gafodd 500 taith awyren eu canslo ym maes awyr y brifddinas wrth i hyd at 460mm (18.1 modfedd) o law syrthio yn yr ardal brynhawn ddoe (Sadwrn).

Yn ôl gwefan asiantaeth newyddion y wladwriaeth, Xinhua, disgwylir rhagor o stormydd garw a glaw yn ystod y dyddiau nesaf.

Ychwanegodd yr asiantaeth bod pedwar o bobl wedi boddi ar ôl i’w car gael ei sgubo i’r afon yn nhalaith Shanxi ac fe laddwyd chwech arall mewn tirlithriad yn nhalaith Sichuan.

Mae Reece Ayers 20 oed yn byw yn Beijing a dywedodd wrth y BBC ei fod ofn am ei fywyd yn ystod y stormydd.

“Roedd gen i ofn syrthio i lawr draen heb orchudd arni yn fwy na dim,” meddai. “Dywedodd ffrind wrtha’i mai fel yma y lladdwyd llawer o bobl mewn stormydd llynedd.|”