Bradley Wiggins yn rasio
Mae Bradley Wiggins yn fwy na thebygol o ennill râs feicio y Tour de France heddiw, gan fod y Sais cyntaf i gyflawni’r gamp yn y râs sy’n 99 mlwydd oed eleni.

Yn ôl yr arferiad, fydd yr un beiciwr arall yn herio’r sawl sydd ar blaen erbyn taith y diwrnod olaf o faesdref Rambouillet ar gyrion Paris i ganol y brifddinas. Os na chaiff Wiggins ddamwain ar y ffordd, ef fydd yn sefyll ar ben y podiwm ac yn gwisgo’r crys melyn ar ddiwedd y râs dair wythnos ar hyd a llêd Ffrainc.

Beiciwr arall o ‘Team Skye’ sef Chris Froome fydd yn yr ail safle.

Er fod Bradley Wiggins wedi ennill tair medal Olympaidd mae’n dweud mai ennill y Tour de France yw uchafbwynt ei yrfa.

“Mae yna bethau eraill sy’n golygu mwy i mi na hyn,” meddai “ond dyma yr uchafbwynt o safbwynt chwaraeon. ‘Dwi newydd ennill y Tour. Beth arall sy’n fwy na hynny?”