Albufeira ym Mhortiwgal
Mae dyn o Brydain oedd ar ei fis mel ym Mhortiwgal wedi marw ar ôl syrthio oddi ar glogwyn.

Roedd Brian Orton, 45 oed, yn dychwelyd i’w westy yn y tywyllwch ar ôl bod am ginio gyda’i wraig pan syrthiodd oddi ar y llwybr yn Albufeira, yn ôl adroddiadau.

Roedd ei wraig, Catherine, 40, wedi bod yn cerdded o flaen ei gŵr pan syrthiodd ar 1 Gorffennaf.

Cafwyd hyd i’w gorff ar ôl i’r timau achub fod yn chwilio amdano am awr a hanner.

Mae’n debyg bod  Brian Orton yn beiriannydd nwy o Coundon, ger Bishop Auckland yn County Durham.

Roedd y cwpl wedi cyrraedd Albufeira ar 25 Mehefin ar gyfer eu mis mel.

Mae’r Swyddfa Dramor wedi cadarnhau marwolaeth Brian Orton ac yn cynnig cymorth i’w deulu.