Fe fydd y cystadleuwyr cyntaf yn symud i mewn i’r Pentref Athletwyr ar gyfer y Gemau Olympaidd heddiw tra bod y ffrae am ddiogelwch yn ystod y gemau yn parhau.

Mae’r Llywodraeth wedi dweud ei bod yn bosib y gall rhagor o filwyr gael eu defnyddio fel swyddogion diogelwch ar ôl i’r cwmni G4S fethu â  chyflenwi digon o swyddogion ar gyfer y Gemau yn Llundain.

Gyda llai na phythefnos i fynd cyn y seremoni agoriadol, mae gweinidogion yn mynnu y bydd y Gemau yn ddiogel.

Ddoe fe fu’r Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, yn amddiffyn G4S gan ddweud ei bod yn “gwbl normal” i gontractwyr ar brosiectau fel y Gemau Olympaidd fethu â gwireddu eu hymrwymiadau.