Mae trenau wedi ail ddechrau teithio ar hyd lein rheilffordd yn Sir Benfro oedd wedi bod ar gau ers dydd Iau.

Bu’n rhaid cau’r lein ar ôl i drên ddod oddi ar y cledrau yn Welsh Hook.

Y gred ydi fod gwartheg wedi crwydro ar y lein. Ni anafwyd unrhyw un yn y ddamwain. Roedd 30 o deithwyr ar y trên ar y pryd.

Ers hynny hyd bore ʼma roedd bysus wedi bod yn cludo teithwyr rhwng Caerfyrddin a Harbwr Abergwaun. Ond yn awr mae’r lein ar agor unwaith eto.