Goleudy Belle Tout
Mae dynes wedi marw ar ôl iddi ddisgyn o ben clogwyn yn Ne Sussex.
Roedd y ddynes yn cerdded gyda’i gŵr a’u ci pan ddisgynnodd wrth ymyl goleudy Belle Tout ger Eastbourne prynhawn ddoe, o amgylch 3 o’r gloch.
Mi gafodd corff y ddynes ei darganfod gan fad achub Eastbourne.
Dywedodd yr heddlu nad oedd y cwpwl yn dod o’r ardal, a’i fod yn “ddigwyddiad trasig”.