Prif gylch y Sioe
Bydd Pafiliwn ‘Gwyrdd’ yn ymddangos am y tro cyntaf yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd eleni.

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi sicrhau lleoliad canolog ar gyfer y Pafiliwn fydd yn hyrwyddo’r cyfraniad positif sy’n cael ei wneud gan ynni adnewyddadwy i economi ac amgylchedd Cymru.

Bydd 19 o stondinwyr wedi eu lleoli yn y Pafiliwn i gyd.

Bydd y Sioe Frenhinol yn cael ei chynnal rhwng 23 a 26 Gorffennaf eleni.

Roedd sibrydion wedi bod ar led y byddai’n rhaid canslo’r Sioe eleni oherwydd y tywydd gwlyb ond cyhoeddodd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru y byddai’r Sioe yn mynd yn ei blaen fel arfer.

Dywedodd Prif Weithredwr y Gymdeithas, David Walters, eu bod nhw’n edrych ymlaen at groesawu miloedd o ymwelwyr i’r Sioe eleni. Roedd y Gymdeithas yn hyderus y byddai’r gwelliannau gwerth £200,000 sydd wedi cael ei wneud i’r prif gylch yn sicrhau y byddai’n gwrthsefyll unrhyw amgylchiadau eithriadol o ran y tywydd, ychwanegodd.

Dacian Ciolos, Comisiynydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig Ewrop, fydd yn agor y Sioe ar ddydd Llun, 23 Gorffennaf.