Mae’r Blaid Lafur wedi dewis eu hymgeisydd ar gyfer isetholiad De Caerdydd a Phenarth.
Stephen Doughty, pennaeth presennol Oxfam Cymru, fydd yn ymladd y sedd gyda’r gobaith o gymryd lle’r AS Llafur Alun Michael. Mae yntau wedi penderfynu ymddiswyddo fel Aelod Seneddol er mwyn canolbwyntio ar ei ymgais i gael ei ethol yn Gomisiynydd yr Heddlu ar gyfer De Cymru.
Dywedodd Mr Doughty ei fod yn falch iawn ei fod wedi cael ei ddewis fel ymgeisydd.
Does dim dyddiad wedi ei bennu eto ar gyfer yr isetholiad.
Yr ymgeisydd sydd wedi cael ei ddewis gan Blaid Cymru yw Luke Nicholas, ymchwilydd gyda grŵp cynulliad y Blaid, ac ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol fydd Dr Bablin Molik, ymchwilydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Dydi’r Blaid Geidwadol ddim wedi cyhoeddi enw eu hymgeisydd nhw eto.
Mi wnaeth Alun Michael ennill y sedd gyda mwyafrif o dros 4,700, gyda’r Torïaid yn dod yn ail, yn etholiad cyffredinol 2010.