Dome du Gouter
Mae dau ddringwr arall wedi marw ar Mont Blanc yn yr Alpau, ychydig ddyddiau ar ôl i naw o bobl farw mewn cwymp eira enfawr yn yr ardal.
Dywedodd swyddog milwrol o dîm achub mynydd sydd wedi ei leoli yn Entreves, yr Eidal, fod cyrff dynes o wlad Pwyl a dyn o Sbaen wedi cael eu darganfod ar y Dôme du Goûter, mynydd ar y ffin rhwng yr Eidal a Ffrainc.
Roedd y ddau wedi bod yn dringo gyda dau arall o Sbaen pan gawson nhw eu dal mewn tywydd gwael nos Wener.
Mi wnaeth y ddau o Sbaen lwyddo i gyrraedd lloches ar y mynydd ddoe gan roi gwybod i’r awdurdodau fod eu ffrindiau mewn trafferthion.
Mi gafodd y ddau gorff eu darganfod gan hofrennydd achub mynydd o’r Eidal.