Triveni
Mae o leiaf 35 o bererinion wedi cael eu lladd mewn damwain bws yn Nepal.
Fe adawodd y bws y ffordd, gan blymio i mewn i Afon Gandak ger tref Paresi, i’r de-orllewin o Kathmandu.
Roedd y bws yn mynd â’r pererinion i’r safle pererindod ar gyfer Hindŵiaid, Trivenin, sydd wedi ei leoli ger y ffin ag India, ar gyfer dathlu gŵyl grefyddol flynyddol. Roedd y mwyafrif o’r teithwyr ar y bws yn dod o dalaith Uttar Pradesh yn yr India.
Dywedodd swyddog heddlu lleol fod gyrrwr y bws wedi colli rheolaeth ar y cerbyd oherwydd bod y ffordd yn llithrig oherwydd y glaw.
Dywedodd fod gymaint o deithwyr ar y bws, roedd rhai ohonyn nhw yn eistedd ar y to.