Jeremy Hunt
Mae Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth San Steffan, Jeremy Hunt, wedi amddiffyn y cwmni diogelwch G4S sydd o dan y lach oherwydd eu methiant i gyflenwi digon o swyddogion diogelwch ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Llundain.
Dywedodd Mr Hunt ei bod yn “gwbl normal” i gontractwyr ar brosiectau fel y Gemau Olympaidd fethu â gwireddu eu hymrwymiadau.
Dywedodd hefyd mewn cyfweliad ar raglen deledu Andrew Marr ar y BBC bore ʼma fod y cwmni wedi ymddwyn yn “eitha anrhydeddus” yn y ffordd yr oedden nhw wedi derbyn cyfrifoldeb am y cawlach sy’n golygu fod 3,5000 o filwyr am gael eu defnyddio fel swyddogion diogelwch yn ystod y Gemau.
Gwadodd fod gweinidogion y llywodraeth wedi methu â goruchwylio’r cytundeb yn ddigonol, gan fynnu bod G4S wedi eu sicrhau droeon y bydden nhw’n cyflenwi’r 10,000 swyddog diogelwch ar gyfer y Gemau.
Dywedodd Harriet Harman, Dirprwy Arweinydd y Blaid Lafur, ar Sky News mai’r Llywodraeth oedd yn gyfrifol am ddiogelwch y Gemau.
“Dwi’n meddwl eu bod nhw wedi bod yn beryglus o analluog ynglŷn â hyn, a dwi’n gobeithio y bydden nhw yn cael gwell trefn ar bethau cyn y Gemau,” meddai.
Yn y cyfamser, mae Cadeirydd Llundain 2012, Arglwydd Coe, wedi gwadu mewn cyfweliad ar Radio 5 live y bydd yna unrhyw gyfaddawdu o ran diogelwch yn y Gemau. Dywedodd fod 4,0000 o swyddogion diogelwch G4S yn gweithio yn y Parc Olympaidd ers rhai blynyddoedd a’u bod nhw’n gwneud gwaith arbennig o dda.