Nicola Sturgeon
Mae Llywodraeth yr Alban wedi derbyn 26,000 o ymatebion i’w ymgynghoriad ar refferendwm am annibyniaeth. Cynhaliwyd ymgynghoriad hefyd gan Lywodraeth San Steffan wnaeth dderbyn bron i 3,000 o ymatebion.
Mae’r ymgynghoriad wedi cael ei gynnal dros bedwar mis ac mae cyfanswm y rhai wnaeth ymateb un uwch na’r 21,0000 a amcangyfrifwyd gan y Llywodraeth.
Cafodd pobl eu holi ynglŷn â’u barn ar gynnal refferendwm yn hydref 2014.
Dywedodd Llywodraeth yr Alban fod mwy na 160 o sefydliadau wedi ymateb.
Meddai’r Dirprwy Brif Weinidog, Nicola Sturgeon, “Mae hwn yn ymateb ffantastig gan bobl yr Alban – deg gwaith yn fwy na’r nifer wnaeth ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar yr un pwnc.
“Mae’r ymateb positif yn arwydd clir fod pobl yr Alban yn credu mai Llywodraeth yr Alban yw’r lle i benderfynu ar dermau ac amseriad y refferendwm – ac na ddylai’r rhain gael eu gosod gan San Steffan.”