Pedro Passos Coelho
Mae doctoriaid ym Mhortiwgal yn cynnal streic ddeuddydd i brotestio’n erbyn toriadau gwario.

Dyw hi ddim yn glir eto faint o effaith y mae’r gweithredu’n ei gael ond roedd yr awdurdodau iechyd eisoes wedi bod yn aildrefnu triniaethau.

Protest y meddygon ym Mhortiwgal yw’r diweddara’ mewn gwledydd sy’n gorfod torri’n llym ar wario cyhoeddus.

Mae glowyr yn Sbaen hefyd wedi bod yn protestio’n erbyn toriadau tebyg, a hynny’n dilyn misoedd o brotestio yng Ngwlad Groeg.

Mae Llywodraeth Portiwgal dan arweiniad y Prif Weinidog Pedro Passos Coelho’n gorfod torri gwario er mwyn cadw gwerth €78 biliwn o gymhorthdal gan yr Undeb Ewropeaidd a’r Gronfa Arian Ryngwladol.

Mae hynny wedi arwain at gynnydd mewn rhai ffioedd iechyd ac mae’r undebau’n cwyno bod doctoriaid yn gorfod gweithio oriau rhy hir a bod gormod o le’n cael ei roi i gwmnïau preifat.