Fe ddylai Cymru gael yr hawl i godi a chadw ei holl dreth incwm ei hun, yn ôl casgliad o gyrff datblygu polisi.

Fe fyddan nhw’n dweud wrth Gomisiwn Silk – sydd wedi ei sefydlu gan Lywodraeth Prydain i ystyried y pwnc – bod angen i Gymru godi traean o’i gwario.

Maen nhw’n honni y gallai sefyllfa’r wlad fod yn unigryw trwy’r byd – gyda chorff sy’n gallu creu deddfau ond heb yr hawl i godi cyllid.

Mae’r grŵp sy’n gweithio dan enw Partneriaeth Newid yr Undeb ac yn cynnwys Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, y Sefydliad Materion Cymreig a’r corff ymgyrchu Cymru Yfory.

Y galwadau

Dyma rai o’u prif alwadau:

  • Yr hawl i Gymru godi a chadw ei holl dreth incwm (heblaw am gynilion). Byddai hynny werth £5 biliwn.
  • Yr hawl i amrywio lefel y dreth incwm ym mhob band ar wahân – yn hytrach na’r drefn yn yr Alban lle mae’n rhaid amrywio ar draws pob band yr un pryd.
  • Datganoli trethi busnes – ond nid y dreth gorfforaethol ar hyn o bryd.
  • Rhoi hawliau benthyg i Lywodraeth Cymru – yn benna’ ar gyfer gwario cyfalaf.
  • Newid Fformiwla Barnett – mae hynny’n amod ar gyfer yr holl newidiadau eraill. Mae’r grŵp yn dweud bod diffyg cyllid cyhoeddus Cymru tua £12 biliwn a bod rhaid cael cronfa sy’n helpu i wneud iawn am hynny.

‘Gwella trafodaeth’

“Rhaid trefnu cyllid Llywodraeth Cymru fel bod natur ac ansawdd ei hatebolrwydd gystal ag unrhyw gynulliad democrataidd arall, gan gynnwys Senedd yr Alban,” meddai Cadeirydd y grŵp, cyn Weinidog Cyllid Cymru, Andrew Davies.

“Bydd datganoli pwerau trethi yn annog trafodaeth y tu mewn a’r tu allan i Lywodraeth Cymru am wir werth a chanlyniadau rhaglenni, yn gorfodi trafodaeth am ddulliau yn ogystal â chanlyniadau, ac yn annog agwedd fwy aeddfed yn y gymdeithas sifil at faterion o bolisi cyhoeddus yng Nghymru.”