Mae’r cyhoeddiad y bydd rhai o weithwyr cwmni dur Tata yn Llanwern a  Phort Talbot yn gweithio llai o oriau, ac yn cael llai o gyflog, o fis Awst ymlaen er mwyn arbed costau, yn profi pa mor fregus yw’r diwydiant cynhyrchu, medd y Ceidwadwyr yng Nghymru.

Dywedodd llefarydd busnes y blaid, Nick Ramsay AC bod y cyhoeddiad yn newyddion siomedig i’r gweithwyr a’u teuluoedd a “bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud popeth yn ei gallu i ddiogelu swyddi a chreu’r amodau lle gall Tata a chwmnïau cynhyrchu eraill ffynnu.”

Dywed Tata bod y cwmni yn wynebu sefyllfa anodd iawn ac mai’r  gostyngiad sylweddol yn y galw am ddur yn y DU a’r Undeb Ewropeaidd  sydd y tu ôl i’r penderfyniad.

Mae disgwyl i’r newidiadau barhau nes bydd y farchnad yn gwella ac mae’r cwmni’n trafod gyda’r undebau ar hyn o bryd.

Does dim bwriad i wneud diswyddiadau, medd y cwmni, ac ni fydd y newidiadau yn effeithio dau o brosiectau eraill Tata ym Mhort Talbot.