Huw Vaughan Thomas
Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, yn dweud bod y Gwasanaeth Iechyd mewn argyfwng ariannol a bod yn rhaid cyflwyno newidiadau.
Yn ei adroddiad mae’n dweud bod y “sefyllfa sydd ohoni yn amhosibl ei fforddio a rhaid wrth newidiadau mewn gwasanaethau i sicrhau ei ddyfodol yn yr hirdymor.”
Bu’r Gwasanaeth Iechyd dan bwysau ariannol sylweddol yn y flwyddyn ddiwethaf, gyda phob bwrdd iechyd lleol yn derbyn £133 miliwn ychwanegol er mwyn ymdopi â chostau.
Mae pedwar bwrdd iechyd hefyd wedi derbyn blaendal o £24.4 miliwn ar gyfer 2012/13.
Gallai cyllid y Gwasanaeth Iechyd ostwng hyd at 2014/15.
Mae rhai camau wedi eu cymryd eisoes er mwyn rheoli’r gyllideb, gan gynnwys adolygu’r drefn gyfrifyddu, gwella cyfleoedd ariannu a chynnwys clinigwyr mewn penderfyniadau ariannol ar gyfer y dyfodol.
‘Agenda heriol dros ben’
Dywedodd Huw Vaughan Thomas yn ei adroddiad: “Yn amlwg, mae’r GIG yng Nghymru yn wynebu agenda heriol dros ben ac mae’r bylchau mewn cyllid yn y byrdymor yn achosi pryder gwirioneddol o hyd.
“Yn gryno, hyd yn oed ar ôl yr arbedion sylweddol iawn a wnaed eisoes, mae’r sefyllfa sydd ohoni yn amhosibl ei fforddio a rhaid wrth newidiadau mewn gwasanaethau i sicrhau ei ddyfodol yn yr hirdymor.
Ond mae wedi canmol Llywodraeth Cymru a’r Gwasanaeth Iechyd am y gwaith y maen nhw wedi’i wneud yn barod i leihau’r costau.
“Mae’r penderfyniad i roi blaendaliadau yn hytrach na symiau i fantoli’r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn yn dangos newid mawr o du Llywodraeth Cymru ac mae hyn, ynghyd â’r arwyddion cadarnhaol bod y GIG yng Nghymru yn barod i wneud dewisiadau anodd i gyflawni newid hirdymor, yn galonogol.”
‘Anghynaladwy’
Roedd Huw Vaughan Thomas eisoes wedi rhybuddio bod rhoi arian ychwanegol i nifer o’r byrddau iechyd yn gynllun anghynaladwy.
Dywedodd mewn adroddiad fis diwethaf fod pob un o’r byrddau iechyd yng Nghymru wedi cwrdd â’r safonau angenrheidiol ar gyfer cyflwyno eu gwariant ar gyfer 2011-12.
Ond bu’n rhaid rhoi arian ychwanegol i bedwar bwrdd er mwyn iddynt gyrraedd eu targedau am y flwyddyn.
Cafodd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan £4.5 miliwn, Caerdydd a’r Fro £12 miliwn, Cwm Taf £4 miliwn a Phowys £3.9 miliwn.