Carwyn Jones
Carwyn Jones i rannu ei weledigaeth am y Deyrnas Unedig pe bai’r Alban yn pleidleisio o blaid annibyniaeth.

Bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn disgrifio’i weledigaeth ar gyfer y Deyrnas Unedig ‘newydd’ pan fydd yn siarad yn San Steffan heddiw.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog drafod sut y dylai’r Deyrnas Unedig gael ei llywodraethu pe bai’r Alban yn pleidleisio dros annibyniaeth mewn refferendwm.

Dyma’r tro cyntaf iddo drafod y mater y tu allan i Gymru, ac mae disgwyl iddo siarad am effeithiau annibyniaeth ar y berthynas rhwng gwledydd y Deyrnas Unedig.

Bydd y Prif Weinidog yn gwrthod y syniad o annibyniaeth i Gymru, gan ddweud bod angen ail-sefydlu’r berthynas rhwng y gwledydd sydd wedi’u datganoli a llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Yn ogystal, fe fydd yn galw am greu Confensiwn Cyfansoddiadol i gytuno ar gyfansoddiad newydd sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

‘Dim diddordeb mewn annibyniaeth i Gymru’

Bydd Carwyn Jones yn dweud: “Datganoli yw ewyllys sefydlog y Cymry erbyn hyn. Fel y rhan fwyaf o bobl Cymru, does gen i ddim diddordeb mewn annibyniaeth i Gymru.

“Tra bo dyfodol cyfansoddiadol yr Alban yn fater i bobl yr Alban, byddai Cymru’n difaru’n fawr pe bai’r Alban yn dewis annibyniaeth.”

Dywed na allai natur y berthynas rhwng gwledydd y DU aros yr un fath pe bai’r Alban yn torri’n rhydd.

“Felly, yn hytrach na gadael i ddigwyddiadau’r Alban fynd heibio, ac ymateb yn oddefol i beth bynnag sy’n digwydd pan fydd yn digwydd, rwy’n credu y dylai’r gymdeithas wleidyddol a sifil ar draws y Deyrnas Unedig fod yn trafod pa fath o Deyrnas Unedig yr hoffem ni ei gweld.”

‘Rhoi llais i Loegr’

Ychwanegodd ei fod yn disgwyl gweld rhagor o bwerau yn cael eu rhoi i’r Alban pe bai’n pleidleisio dros annibyniaeth.

“Ai mater i’w drafod a’i gytuno, yn syml iawn, rhwng yr Albanwyr a llywodraeth y Deyrnas Unedig fyddai honno, neu a ddylai aelodau eraill y Deyrnas Unedig gymryd rhan? Rwy’n credu y dylai pob rhan o’r Deyrnas Unedig fod yn rhan o’r drafodaeth honno.

Pwysleisiodd y byddai sefydlu confensiwn yn galluogi Lloegr i gymryd rhan fwy blaenllaw mewn trafodaeth ar ddyfodol y Deyrnas Unedig.

“Mae’r trafodaethau dros y blynyddoedd diwethaf am faterion cyfansoddiadol yn y Deyrnas Unedig wedi canolbwyntio’n bennaf, ac yn anghymesur, ar lywodraethu’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.

“Mae llais Lloegr heb ei glywed yn iawn eto. Rwy’n sicr yn difaru diffyg cyfraniad y Saeson hyd yn hyn, ac yn gofyn ein bod yn darganfod ffordd o newid hynny.”