Prifddinas Yemen, Sanaa
Mae hunan-fomiwr wedi ymosod ar academi’r heddlu ym mhrifddinas Yemen, Sanaa, gan ladd chwech o bobl.
Dywedodd yr heddlu fod y dyn wedi ffrwydro bom yng nghanol torf o bobl wrth iddyn nhw adael yr academi ar ddiwedd y diwrnod gwaith.
Roedd yr adroddiadau gwreiddiol yn awgrymu bod hyd at 20 o bobl wedi cael eu lladd.
Mae ymgyrchwyr Islamaidd eisoes wedi dweud y byddan nhw’n gwrthdystio yn erbyn gweithgarwch y fyddin yn eu cadarnleoedd.
Cafodd 90 o filwyr eu lladd ym mis Mai pan ymosododd hunan-fomiwr ar ymarfer gorymdaith yn y brifddinas.
Dywedodd cangen o al-Qaeda, Ansar al-Sharia, mai nhw oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad hwnnw.
Yn y cyfamser, cyhoeddodd llywodraeth y wlad ddydd Mercher ei bod wedi arestio dau o’r pum aelod o al-Qaeda oedd wedi dianc o’r carchar yn nhalaith Hodeida fis diwethaf.
Mae un o’r dynion, Nasser Ismail Ahmed Muttahar, yn cael ei amau o gymryd rhan mewn ymosodiad ar lysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Sanaa yn 2008, a laddodd 19 o bobl.