Glaw yn Sioe Llanelwedd yn 2010
Mae trefnwyr y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd wedi dweud na fyddan nhw’n canslo’r digwyddiad blynyddol oherwydd y glaw.
Roedd yna amheuon y byddai’n rhaid gohirio’r digwyddiad, ond mae buddsoddiad o £200,000 er mwyn lleihau effeithiau’r tywydd gwlyb yn golygu y gall y sioe fynd yn ei blaen.
Mae ymwelwyr yn cael eu hannog i fynd i’r sioe ar y trên er mwyn osgoi rhesi o draffig ar yr heolydd o amgylch maes y Sioe.
Bydd cwmni trenau Arriva yn trefnu trenau o Gaerdydd, gyda theithwyr yn cael eu cludo i faes y sioe ar fysiau gwennol.
Bydd y trên yn gadael Caerdydd am 7.37am bob bore ac yn casglu teithwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Y Pîl a Phort Talbot cyn symud ymlaen i Bontarddulais a stopio ar hyd y ffordd i Lanelwedd.
Mae disgwyl i’r daith gymryd tair awr, a bydd y daith yn ôl bob dydd yn dechrau am 6.45pm ac yn gorffen yng ngorsaf ganolog Caerdydd am 9.58pm.
‘Canslo ddim ar yr agenda’
Dywedodd Prif Weithredwr y Gymdeithas Amaethyddol, David Walters: “Mae popeth yn ei le ar gyfer digwyddiad mawr ac rydym yn edrych ymlaen at bedwar diwrnod llawn o weithgareddau yn Llanelwedd.
“Mae’n anhygoel braidd sut mae sôn am ganslo’n lledu ond rwy am sicrhau i bawb nad yw canslo’r sioe ar yr agenda.
“Bydd y sioe yn cael ei hagor gan Gomisiynydd Ewrop dros Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig, Dacian Ciolos ar ddydd Llun, Gorffennaf 23 ac rydym yn edrych ymlaen i groesawu miloedd o ymwelwyr yn ystod wythnos y sioe.”
“Mae 12 diwrnod i fynd eto cyn y sioe ac rydym yn croesi’n bysedd y cawn ni dywydd gwell erbyn hynny ac y bydd yr haul yn disgleirio dros Lanelwedd.”