Stadiwm y Mileniwm: cartref rygbi Cymru
Mae Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru wedi croesawu penderfyniad yr Uchel Lys i beidio â gadael i glwb rygbi Pontypwl aros yn Uwchgynghrair Cymru.
Dywedodd Roger Lewis, “Roedden ni’n (URC) yn siomedig fod Pontypwl wedi penderfynu cymryd achos cyfreithiol yn ein herbyn. Ond fedrwn ni ddim cyflawni newid heb wneud penderfyniadau anodd.
Mewn newidiadau gweddnewidiol i Uwchgynghrair Rygbi’r Principality ar gyfer 2012/13, ni fydd un o glybiau enwocaf Cymru’n gymwys i chwarae yn yr adran uchaf.
Dadleuodd Clwb Rygbi Pontypwl fod Undeb Rygbi Cymru wedi anwybyddu’r canllawiau diogelwch angenrheidiol sydd angen ar rhai o’r clybiau wrth lunio’r gynghrair newydd.
Ond heddiw, ar ôl pythefnos o ystyried y penderfyniad, dywedodd y barnwr, Syr Raymond Jack, na fyddai’r clwb yn cael parhau yn yr Uwchgynghrair.
“Mae’n bwysig nawr ein bod ni’n symud ymlaen er lles rygbi,” ychwanegodd Roger Lewis.