Bydd clwb rygbi Pontypwl yn disgyn i ail adran rygbi Cymru, er gwaethaf achos llys yn erbyn penderfyniad Undeb Rygbi Cymru.
Dadleuodd Clwb Rygbi Pontypwl fod Undeb Rygbi Cymru wedi anwybyddu’r canllawiau diogelwch angenrheidiol sydd angen ar rhai o’r clybiau wrth lunio’r gynghrair newydd.
Ond heddiw, ar ôl pythefnos o ystyried y penderfyniad, dywedodd y barnwr, Syr Raymond Jack, na fyddai’r clwb yn cael parhau yn yr Uwchgynghrair.
“Rwyf wedi dod i’r casgliad fod Pontypwl wedi methu a sefydlu unrhyw dor-cytundeb neu dordyletswydd ar ran URC ac nad oes sail i ymyrraeth gan y llys,” meddai.
Mewn newidiadau gweddnewidiol i Uwchgynghrair Rygbi’r Principality ar gyfer 2012/13, ni fydd un o glybiau enwocaf Cymru’n gymwys i chwarae yn yr adran gyntaf.