Chris Coleman
Mae rheolwr Cymru, Chris Coleman, wedi cydnabod ei fod yn ystyried gofyn i’r chwaraewr dadleuol, Ryan Shawcross, gynrychioli’r wlad.

Ond fe ddywedodd hefyd y byddai’n trafod hynny’n gynta’ gyda chapten Cymru, Aaron Ramsey, a gafodd i frifo’n ddifrifol gan amddiffynnwr Stoke City.

Fe ddaeth tacl anghyfreithlon gan Shawcross yn agos at roi diwedd ar yrfa chwaraewr canol cae Arsenal.

Ond fe allai Shawcross bellach chwarae i Gymru, er ei fod eisoes wedi chwarae i Loegr dan 21 ac mae’n un o nifer o chwaraewyr y mae Coleman yn eu hystyried.

Mae’r rheolau wedi eu llacio’n ddiweddar ynglŷn â chwaraewyr sydd â’r hawl i chwarae i fwy nag un wlad.

Cynhadledd i’r wasg

Fe ddaeth y cyhoeddiad mewn cynhadledd i’r wasg ddoe i gadarnhau mai Geraint Williams fydd rheolwr tîm dan 21 oed Cymru.

Fe ddywedodd Coleman ei fod hefyd yn ystyried rhai fel cefnwr Abertawe, Angel Rangel – ei waith ef, meddai, oedd ceisio cryfhau’r tîm.

Ond, yn achos Shawcross, roedd yn cydnabod fod “problemau” ac y byddai’n trafod gyda Ramsey cyn gwneud dim.