Michael Laudrup
Yr amddiffynnwr canol o Sbaen, Jose Manuel Flores yw’r chwaraewr cyntaf i ymuno ag Abertawe ers i’r rheolwr newydd, Michael Laudrup fod wrth y llyw.

Mae Flores, sy’n cael ei adnabod wrth ei ffugenw ‘Chico’, wedi ymuno â’r Elyrch o glwb Genoa yn yr Eidal am £2 filiwn ar gytundeb tair blynedd.

Roedd Flores a Laudrup wedi cydweithio pan oedd Flores ar fenthyg i glwb Real Mallorca yn Uwchadran Sbaen.

Mae Flores wedi ennill tri chap dros dîm dan 21 Sbaen ac roedd yn aelod o’r garfan yn ystod Pencampwriaeth Uefa yn 2009.

Ac mae disgwyl i’r Elyrch gyhoeddi’n fuan fod y chwaraewr canol-cae 24 oed o’r Iseldiroedd, Jonathan de Guzman yn ymuno â’r clwb ar fenthyg y tymor nesaf.

Mae de Guzman hefyd wedi cydweithio gyda Laudrup yn y gorffennol yn Mallorca.

Yn wreiddiol o Ganada, mae de Guzman bellach yn gymwys i gynrychiol’r Iseldiroedd ar ôl cyfnod yn byw yno.

Mae wedi ennill pedwar cap dros dîm dan 21 yr Iseldiroedd, a chynrychiolodd ei wlad yng Ngemau Olympaidd Beijing yn 2008.

Mae Laudrup wedi penodi un arall o’i gyn-gydweithwyr i’w staff hyfforddi.

Mae Oscar Garcia yn ymuno ag Abertawe fel hyfforddwr ffitrwydd, wedi cyfnodau’n gweithio o dan Laudrup yn Spartak Moscow a Getafe.