John Terry
Roedd cyn gapten pêl-droed Lloegr wedi dweud wrth yr FA nad oedd yn fodlon cael ei alw’n hiliol.
Fe gafodd recordiad o gyfweliad gyda John Terry ei chwarae yn Llys Ynadon Westminster ble mae’r chwaraewr 31 oed yn cael ei gyhuddo o regi ar chwaraewr arall a’i alw’n ddu.
Yn ôl John Terry, roedd wedi ei synnu a’i frifo gan yr honiadau a wnaed gan Anton Ferdindand, amddiffynnwr Queens Park Rangers ar ôl gweld fideo o ffrae rhwng y ddau.
“Dydw i ddim wedi cael fy nghyhuddo o hynna o’r blaen, y tu fewn i bêl-droed, neu’r tu allan.” meddai Terry, sy’n amddifynnwr i Chelsea, un o elynion mawr QPR.
Fe ddechreuodd yr achos llys ddoe ac mae John Terry’n gwadu’r cyhuddiad o wawdio hiliol.