Mae cyn-reolwr Colchester a Leyton Orient, Geraint Williams, wedi ei enwi yn rheolwr newydd tîm dan-21 Cymru.

Bydd y gŵr 50 mlwydd oed yn dilyn Brian Flynn, ar ôl i’w gytundeb ddod i ben ddiwedd mis Mai.

Mae’n debyg fod rheolwr Cymru, Chris Coleman, wedi cyfweld â sawl dyn ar gyfer y swydd gan gynnwys cyn-amddiffynnwr Cymru, Robert Page.

Cefndir

Roedd yna feirniadaeth wedi i’r Gymdeithas wrthod adnewyddu cytundeb Brian Flynn, sydd wedi cael llwyddiant gyda’r tim ac wedi meithrin nifer o chwaraewyr ar gyfer y prif dim hefyd.

Bydd tîm Geraint Williams yn wynebu Armenia ar y Cae Ras yn ei gêm gyntaf yn rheolwr mis nesaf.

Mae Cymru dan-21 yn drydydd yn y grŵp ar hyn o bryd, gyda deg pwynt wedi chwe gêm.

Pan oedd yn chwarae, enillodd Geraint Williams 13 o gapiau dros Gymru a gwneud dros 700 o ymddangosiadau dros amryw o glybiau.