John Terry
Clywodd achos llys John Terry heddiw nad oedd cyn-gapten Lloegr am gael ei alw’n hiliol.
Dywedodd yr amddiffynnwr wrth Gymdeithas Bêl-droed Lloegr wythnos wedi iddo gael ei gyhuddo o ddweud sylwadau hiliol wrth chwaraewr Queens Park Rangers, Anton Ferdinand, fod hiliaeth ddim yn rhan o’i gymeriad.
Mae’r cyhuddiad yn dyddio nôl i’r gêm rhwng Chelsea a QPR ar Loftus Road ym mis Hydref y llynedd.
Cafodd recordiad o’r cyfweliad rhwng John Terry a’r Gymdeithas ei chwarae i Lys Ynadon Westminster heddiw.
“Dw i wedi cael fy ngalw yn lot o bethau yn ystod fy ngyrfa, ar y cae ac oddi ar y cae, ond dydw i ddim yn barod i gael fy ngalw yn berson hiliol,” meddai John Terry.
“Dyna pam wnes i roi’r datganiad yn syth. Dydw i ddim am i Anton (Ferdinand) feddwl hynny amdana i na neb arall. Dydi hynny ddim yn rhan o fy nghymeriad i,” ychwanegodd capten Chelsea.
Mae John Terry yn gwadu’r cyhuddiad yn ei erbyn.