Gavin Henson
Mae’r olwr Gavin Henson wedi arwyddo i chwarae dros ei bumed clwb o fewn tair blynedd ar ôl ymuno â Chymry Llundain.

Bydd yn ail-ymuno a’i gyn-hyfforddwr Lyn Jones gyda’r newydd ddyfodiaid i Uwch Gynghrair Aviva y tymor hwn.

Cafodd Gavin Henson ei wahardd o’r Gleision ym mis Ebrill yn dilyn digwyddiad ar awyren.

Ar ôl gadael y Gweilch, aeth ymlaen i gynrychioli’r Saraseniaid cyn gadael ar ôl chwe wythnos a phedwar ymddangosiad i ymuno â Toulon yn Ffrainc.

Mae canolwr Cymru hefyd wedi ymddangos ar raglenni teledu Strictly Come Dancing, The Bachelor a chyfres 71 Degrees North.