Mae clwb rygbi Dreigiau Casnewydd Gwent yn wynebu ansicrwydd, yn ôl archwiliwr annibynnol i faterion ariannol y rhanbarth.
Roedd cyfrifon diweddar y clwb yn dangos fod y Dreigiau yn y coch o bron i £2.4 miliwn yn y flwyddyn yn diweddu fis Mai’r llynedd.
Fe wnaeth y rhanbarth golled o fwy na £272,000 yn ystod y flwyddyn.
Dywedodd yr archwiliwr ei fod yn pryderu am ddyfodol y rhanbarth fel clwb rygbi oherwydd “ansicrwydd materol”.
Mae pedwar o ranbarthau rygbi Cymru eisoes wedi cytuno i gyfyngu cyllideb gyflog i £3.5 miliwn er mwyn cadw costau i lawr.
Ond nid y Dreigiau sy’n wynebu’r colledion ariannol mwyaf yng Nghymru.
Fe wnaeth Gleision Caerdydd golli £2.3 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol, tra bod y Gweilch yn gwneud colledion o £1.46 miliwn a’r Sgarlets £1.8miliwn.