Bu farw cyn chwaraewr rygbi Cymru, Brian Thomas, yn fuan bore ma ar ôl salwch hir. Roedd o’n 72.

Enillodd Brian Thomas 21 o gapiau dros Gymru yn ystod y chwedegau. Bu’n gapten ar Gastell-nedd ac fe aeth yn ei flaen i reoli’r clwb yn ystod yr wythdegau a’r nawdegau.

Roedd hefyd yn gyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Yn ystod ei gyfnod fel rheolwr Castell-nedd, cafwyd sawl gem hanesyddol ar y Gnoll yn erbyn timoedd ar daith o Seland Newydd, Awstralia a De Affrica.

Dywedodd Aelod Seneddol Castell-nedd, Peter Hain, ar Twitter, “Newyddion trist iawn am farwolaeth cawr rygbi Nedd Brian Thomas ar ôl salwch hir. Cydymdeimladau i deulu Brian.”