Dai Greene
Y Cymro Dai Greene fydd capten tîm athletau Prydain yn y Gemau Olympaidd.

Bydd y rhedwr clwydi dros 400 metr o Abertawe yn arwain tîm o 78 am yr ail waith wedi iddo gapteinio Prydain yn ystod Pencampwriaeth Ewrop yn Sweden y llynedd.

Mae Dai Greene, 26, yn bencampwr y byd ac yn bencampwr Gemau’r Gymanwlad ac mae’n un o obeithion mwyaf Prydain am fedal aur yn Llundain fis nesaf.

Mae’n un o 30 o Gymry sydd wedi eu dewis i gynrychioli Prydain yn y Gemau yn Llundain dros yr haf, y nifer mwyaf o Gymru i gymryd rhan.

Cafodd y Cymro Ryan Giggs ei enwi fel capten ar dîm pêl-droed Prydain yn ddiweddar.