Shaun Connor (Llun o wefan URC)
Mae cyn faswr y Gweilch a’r Dreigiau, Shaun Connor, wedi’i benodi i swydd Hyfforddwr Sgiliau Undeb Rygbi Cymru.
Bydd Connor, sydd wedi bod yn hyfforddi timau ieuenctid y ddau ranbarth uchod, yn gweithio’n agos gyda Rheolwr Perfformiad Rhanbarthau URC, Andrew Millward.
Mae’n camu i esgidiau Gruff Rees sydd bellach yn hyfforddwyr cefnwyr rhanbarth y Gweilch.
“Bydd Shaun yn datblygu athroniaeth yr Academi Genedlaethol yn rhanbarth y Gweilch” meddai Rheolwr Perfformiad URC, Gethin Watts.
“Bydd yn datblygu strategaeth sgiliau i sicrhau bod chwaraewyr yn cael cyfle i ddatblygu eu potensial ar lefel rhanbarthol a chenedlaethol.”
“Bydd yn gweithio’n agos â hyfforddwyr carfannau’r rhanbarthau a’r tîm cenedlaethol.”
Treuliodd Connor bum mlynedd yn chwarae i’r Gweilch cyn symud i’r Dreigiau yn 2008, gan sgorio 490 o bwyntiau i’r rhanbarth.
“Gwella chwaraewyr ifanc ydy’r nod ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gael datblygu chwaraewyr proffesiynol y dyfodol” meddai Connor am y swydd.
“Rwy wedi mwynhau fy swyddi hyfforddi hyd yn hyn ac yn edrych ymlaen at gael datblygu ymhellach fel hyfforddwr.”