John Terry
Clywodd llys ynadon heddiw fod cyn-gapten tim pel-droed Lloegr a chapten presennol Chelsea, John Terry, wedi gwneud sylwadau hiliol am yr amddiffynnwr, Anton Ferdinand.

Mae’r cyhuddiad yn cyfeirio nôl at gêm rhwng Chelsea a Queens Park Rangers ym mis Hydref y llynedd.

Roedd lluniau byw o’r gêm yn awgrymu i John Terry wneud sylwadau hiliol tuag at Anton Ferdinand, sy’n frawd i chwaraewr Manchester United, Rio Ferdinand.

Mae John Terry yn gwadu ei fod wedi bod yn hiliol tuag at Anton Ferdinand.

Bu’r ddau yn ffraeo yn ystod y gêm ond wedi iddi orffen, fe wnaeth John Terry ofyn i Anton Ferdinand a oedd o wedi ei gyhuddo o wneud sylwadau hiliol.

Ar y pryd, doedd Anton Ferdinand ddim yn meddwl fod capten Chelsea wedi anelu’r sylwadau’n uniongyrchol tuag ato.

Ond yn ddiweddarach, fe wnaeth partner Anton Ferdinand ddangos clip fideo o’r digwyddiad gan ei arwain i feddwl fod John Terry wedi defnyddio’r sylwadau tuag ato wedi’r cyfan.

Mae’r achos yn parhau.