Mae ‘r Sgarlets wedi arwyddo’r olwr Gareth Owen o’r Gweilch.
Fe adawodd yr olwr ranbarth y Gweilch yn ddiweddar, ac mae’r Dreigiau a Chymry Llundain wedi bod yn awyddus i’w arwyddo.
Ond, daeth cadarnhad bore ma mai’r Sgarlets sydd wedi sicrhau llofnod y chwaraewr amryddawn, a hynny ar gytundeb dwy flynedd.
Roedd Owen, sy’n 23, yn chwaraewr tîm dan 21 Cymru, ac mae wedi treulio pum mlynedd yng ngharfan Y Gweilch ond prin fu ei amser ar y cae llynedd o ganlyniad i anaf difrifol i’w ben-glin.
Mae Owen yn olwr hyblyg, sy’n gallu chwarae fel maswr, canolwr neu gefnwr.
“Mae Gareth yn chwaraewr talentog, ry’n ni’n amlwg wedi ei weld yn perfformio yma yng Nghymru sawl gwaith ac mae ei hyblygrwydd yn atyniadol i ni” meddai un o hyfforddwyr y rhanbarth, Mark Jones.
“Mae’n hyfforddi cyn y tymor ac yn ymddangos yn gyfforddus iawn ar ôl ei anaf a gyda chefnogaeth a gwybodaeth ein tîm meddygol sy’n brofiadol iawn ag anafiadau i’r ben-glin, ry’n ni’n edrych ymlaen i’w gael yn holliach ac yn ôl ar y maes.”
“Mae hwn yn gyfle gwych i mi ac rwy’n awyddus i fod nôl ar y cae ac yn mwynhau fy rygbi unwaith eto” meddai Owen.
“Mae’r Sgarlets yn garfan uchelgeisiol iawn sydd â thîm hyfforddi cryf ac fe fyddai’n ffitio dda yma yn nhermau’r math o rygbi sy’n cael ei chwarae ar Barc y Sgarlets.”