Roger Federer yn ennill teitl Wimbledon am y seithfed tro
Mae Andy Murray wedi methu yn ei ymgais i fod y dyn cyntaf o Brydain ers dros 70 mlynedd i ennill twrnament dynion Wimbledon, wrth golli i Roger Federer heno.

Roedd yr Albanwr – y Prydeiniwr cyntaf i gyrraedd y ffeinal mewn dros 70 mlynedd – wedi gobeithio bod y pencampwr cyntaf ers Fred Perry yn 1936.

Mewn ffeinal drydanol, llwyddodd y chwaraewr o’r Swistir i’w guro 4-6 7-5 6-3 6-4 ac ennill pencampwriaeth Wimbledon am y seithfed tro.

Roedd yn fuddugoliaeth nodedig i Federer, gan iddo lwyddo i gyflawni’r un gamp â Pete Sampras wrth ennill saith gwaith, ac ymestyn cyfanswm ei bencampwriaethau i 17. Fe fydd hefyd yn dychwelyd i frig y rhengoedd rhyngwladol am y tro cyntaf ers mis Mai 2010, gan ddisodli Novak Djokovic.

Mewn cyfweliad llawn teimlad ar y diwedd, diolchodd Andy Murray i bawb a’i cefnogodd:

“Mae’r gefnogaeth wedi bod yn anhygoel,” meddai yn ei ddagrau.