Yr heddlu tu allan i'r banc yn Toulouse
Mae dyn arfog oedd wedi cymryd pedwar o bobl yn wystlon mewn banc yn Toulouse yn ne Ffrainc wedi cael ei ddal.

Ni chafodd yr un o’r gwystlon eu hanafu.

Daeth y cyhoeddiad yn fuan ar ôl i sŵn gynnau’n cael eu tanio gael ei glywed yn y banc.

Yn ôl yr awdurdodau roedd y dyn wedi cael problemau seiciatryddol yn y gorffennol ac yn honni ei fod yn gweithredu am resymau crefyddol.

Roedd rhai adroddiadau yn honni ei fod yn aelod o al Qaida.