Y ty lle bu farw'r plant
Mae ditectifs sy’n ymchwilio i farwolaeth chwech o blant mewn tân mewn tŷ yn Derby wedi arestio trydydd person.

Dywed Heddlu Sir Derby bod dyn 45 oed wedi ei arestio yn Derby ac yn cael ei holi mewn cysylltiad â marwolaeth Jade Philpott a’i brodyr John, Jack, Jesse, Jayden, a Duwayne.

Mae  rhieni’r plant, Mick a Mairead Philpott, eisoes wedi eu cyhuddo o’u llofruddio.

Daw’r datblygiad diweddara dau ddiwrnod ar ôl i Mick Philpott, 55, a’i wraig Mairead, 31, fynd gerbron Llys y Goron Nottingham lle cafodd y ddau glywed y byddan nhw’n sefyll eu prawf ar 14 Ionawr.

Maen nhw wedi eu cyhuddo o lofruddio eu plant yn eu cartref yn Allenton, Derby ar 11 Mai.

Fe fydd angladdau’r plant yn cael eu cynnal ddydd Gwener ond mae swyddogion yr eglwys wedi cadarnhau na fydd Mick a Mairead Philpott yn bresennol.