Mae athrawes a fu’n dysgu yn Ysgol Gyfun Ystalyfera, Abertawe wedi cael ei gwahardd rhag dysgu am gyfnod amhenodol.
Cafodd Kathryn Thomas o Bontarddulais ei herlyn yn 2011 am fod â 2.59g o gocên yn ei meddiant, 35.8g o amffetamin, ac am gadw planhigyn canabis.
Ddoe dywedodd pwyllgor disgyblu Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru fod ei hymddygiad yn “amhriodol” ac wedi “disgyn yn is na’r hyn sydd yn ddisgwyliedig gan athro.”
Cafodd yr athrawes gelf ei gwahardd rhag dysgu am gyfnod amhenodol. Mae ganddi hawl i wneud cais i’r Cyngor Addysgu i ddod nôl i’r proffesiwn ar ôl cyfnod o ddwy flynedd.
Mewn ymateb i’r newydd am ddyfarniad y Cyngor Addysgu dywedodd Karl Napieralla, Cyfarwyddwr Addysg awdurdod lleol Castell Nedd Port Talbot: “Dydyn ni ddim yn goddef ymddygiad o’r fath mewn unrhyw amgylchiadau yn enwedig gan bobol sydd mewn sefyllfa o ymddiriedaeth a dylanwad dros bobol ifanc.
“Hoffwn roi sicrwydd i rieni a’r gymuned ehangach y byddwn bob amser yn gweithredu yn briodol mewn amgylchiadau o’r fath.”