Mae pwyllgor cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cymeradwyo cais  i godi ysgol ardal newydd ger Llanegryn ym Mro Dysynni yn dilyn cyfres o gyfarfodydd ymgynghori lleol.

Bydd yr ysgol newydd yn ecogyfeillgar ac yn cynnwys pedair ystafell ddosbarth, lle pwrpasol ar gyfer y Cylch Meithrin lleol a llyfrgell fawr.

Bydd ardal ehangach Dysynni hefyd yn cael buddsoddiad pellach o £2.5 miliwn i wella a moderneiddio Ysgol Pen-y-Bryn, Tywyn, Ysgol Dyffryn Dulas, Corris ac Ysgol Pennal.

‘Ysgol o’r radd flaenaf’

Dywedodd yr Aelod Cabinet Sian Gwenllian, sy’n arwain ar faterion addysg: “Rydym yn croesawu’r ffaith bod Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi cymeradwyo’r cais cynllunio. Mae hyn yn gam pwysig ymlaen tuag at y nod o adeiladu ysgol o’r radd flaenaf i blant ardal Bro Dysynni.

“Mae’r ffaith y bydd y cynllun hwn yn creu nifer o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu hefyd yn newyddon da i’r economi leol. Fel Cyngor byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod cwmnïau lleol yn ymwybodol o’r cyfleoedd y bydd y cynllun hwn yn ei gynnig iddynt.”

Gwrthwynebiad

Ond mae rhai yn gwrthwynebu’r cynllun am y bydd yn golygu bod ysgolion gwledig yn nalgylch Bro Dysynni yn cau. Yn eu plith mae Ysgol Bryncrug, Ysgol Llwyngwril a Llanegryn. Mae ysgol gynradd Ysgol Abergynolwyn eisoes wedi cau. Y bwriad yw cau’r ysgolion yn ystod y flwyddyn ysgol 2013-14.