Y Fonesig Gillian Morgan
Mae pennaeth gwasanaeth sifil Cymru wedi cyhoeddi ei bod hi’n ymddeol ar ôl pedair blynedd yn y swydd.

Mae’r Fonesig Gillian Morgan wedi dweud nad oedd y penderfyniad i adael y swydd yn un hawdd gan fod dyfodol tymor hir Cymru a’r bobol sy’n byw yma yn bwysig iawn iddi.

Dywedodd fod yr hinsawdd ariannol wedi bod yn “heriol” ond bod arwain gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru wedi bod yn “rhan foddhaus a chyffrous” o’i gyrfa. Cyn ymuno gyda’r gwasanaeth sifil treuliodd ei gyrfa ym maes iechyd, fel meddyg a gweinyddydd gyda chyrff iechyd.

Diolchodd y Prif Weinidog Carwyn Jones iddi am ei gwaith.

“Nid yw delio gyda heriau ariannol y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn hawdd, i Weinidogion na chwaith y Gwasanaeth Sifil, ac mae Gill wedi arwain y sefydliad trwy gyfnod o gyni ac wedi cadw’r ffocws ar yr hyn rydym yn ceisio ei gyflawni trwy raglen y Llywodraeth.”

Pwysleisiodd Carwyn Jones fod angen i’w holynydd gael y sgiliau a’r profiad cywir i wneud “un o’r swyddi mwyaf yng Nghymru.”