Mae mudiad cadwriaethol wedi dweud bod rhai pobol yn erbyn creu parthau cadwraeth oddi ar arfordir Cymru o achos geiriad “dryslyd” papur ymgynghori Llywodraeth Cymru.
Mae Cymdeithas Gadwraeth y Môr wedi dweud eu bod nhw’n cefnogi’r syniad o greu parthau cadwraeth ar y môr ond yn cydnabod fod rhai o’r cyhoedd yn pryderu am natur “gormesol” y cynlluniau.
Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn ymgynghori ar greu tair neu bedair ardal gadwraeth forol ac wedi cyhoeddi fod 10 safle ar arfordir Cymru dan ystyriaeth ar gyfer y statws gwarchodedig.
Nod y cynlluniau yw “galluogi’r safleoedd hynny i weithredu mor naturiol â phosibl.”
Mae pysgotwr o Benrhyn Llŷn, Colin Evans, wedi dweud y bydd yr amodau yn “difetha hen ffordd o fyw pysgotwyr Pen Llŷn” ac na fydd neb yn byw ar Ynys Enlli ymhen deng mlynedd os bydd cynllun i ddynodi’r ynys yn barth cadwraeth yn cael ei wireddu.
Sesiwn er mwyn briffio ACau
Mae Cymdeithas Gadwraeth y Môr wedi cynnal sesiwn gydag Aelodau Cynulliad a swyddogion y Senedd er mwyn pwysleisio “pam bod creu parthau cadwraeth mor bwysig i gyfoeth ac iechyd y moroedd o amgylch Cymru.”
“Rydym ni’n gynyddol bryderus fod y cyhoedd yn teimlo fod y cynlluniau yn ormesol,” medd Gill Bell o Gymdeithas Gadwraeth y Môr.
“Mae’r awgrymiadau yn y wasg na fydd modd hwylio cychod pleser, ac y bydd cerddwyr cŵn a hyd yn oed plant sy’n chwarae mewn pyllau neu’n codi cestyll tywod yn cael eu herlid, yn hollol gamarweiniol.”
“Y peth allweddol yw na fydd y safleoedd gwarchodedig yn atal llawer o weithgareddau o gwbl, dim ond y rheiny sy’n tynnu – trwy bysgota – neu’n dympio gwastraff dredjio.
“Ni fydd gweithgareddau hamdden yn cael eu cyfyngu oni bai eu bod nhw’n aflonyddu’n fawr,” meddai Gill Bell.
Ar ôl i Carwyn Jones ddweud ddoe y byddai “mwy na chroeso” i longau tanfor niwclear Prydain yn Aberdaugleddau, dywedodd Simon Thomas AC nad yw’r gwahoddiad yn gydnaws gyda chynlluniau i warchod arfordir Sir Benfro.
Bydd y cyfnod ymgynghori ar y parthau morol yn dod i ben ar 31 Gorffennaf.