Rhys Griffiths
Bydd Clwb Pêl-droed Port Talbot yn cynnal cynhadledd i’r wasg am 7yh heno  er mwyn cadarnhau bod yr ymosodwr Rhys Griffiths yn dychwelyd i Stadiwm Gen-Quip.

Mae arwyddo chwaraewr o statws Rhys Griffiths, 32, yn dangos bwriad ac uchelgais mawr yn ôl datganiad gan y clwb.

Daw’r newydd o arwyddo Rhys Griffiths fel mymryn o sioc am iddo gael ei gysylltu â chlybiau ym mhyramid Lloegr yn ogystal â’r Bala ac Aberystwyth.

Ar ôl symud i Lanelli yn 2006, sgoriodd 180 o goliau mewn 181 o gemau i’r cochion.

Mae Rhys Griffiths hefyd wedi cynrychioli tîm lled-broffesiynol Cymru o dan-23, ac wedi sgorio 237 o goliau mewn 294 (+26) o gemau cynghrair.

Marc Lloyd Williams, sydd bellach wedi ymddeol, yw prif sgoriwr Cynghrair Cymru gyda 318 o goliau.