Mae ymchwiliad i achos tân mewn ysgol gynradd ym Mhenybont- ar-Ogwr wedi darganfod bod y tân wedi dechrau’n ddamweiniol.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i Ysgol Gynradd Betws yn Llangeinor am 2.30pm ddoe ar ôl i dân ddechrau yn adran iau’r ysgol. Cafodd 219 o ddisgyblion yr ysgol eu symud i le diogel wedi’r digwyddiad.

Mae’n debyg bod y tân wedi dechrau ar ôl i ffan orboethi a mynd ar dân.

Y bore ma fe gyhoeddodd Cyngor Penybont-ar-Ogwr y byddai’r ysgol yn ail agor heddiw.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor  fod difrod mawr wedi’i wneud i’r adran iau ond fod pob disgybl wedi’u symud i’r adran fabanod dros dro.

Yr unig wahaniaeth, medd y llefarydd, yw bod y ‘clwb brecwast’ ddim yn gallu parhau yn ôl yr arfer.