Rolf Harris Llun: Gerallt Llewelyn
Bydd yr arlunydd a’r cyflwynydd teledu Rolf Harris yn ymweld â Phrifysgol Bangor y prynhawn yma i ffilmio casgliad o luniau gan yr arlunydd, Brenda Chamberlain.

Mae Brenda Chamberlain, sy’n frodor o Fangor ac a fu’n astudio celf yn yr Academi Frenhinol yn Llundain, yn cael ei hystyried fel un o artistiaid enwocaf Cymru.

Bydd Rolf Harris yn ffilmio yn y Brifysgol am 2.00yh ar gyfer cyfres deledu ‘Rolf on Welsh Art’ i’r BBC.