Mae UEFA wedi gwneud tro pedol a chydnabod bod rhai o chwaraewyr croenddu’r Iseldiroedd wedi eu sarhau’n hiliol yn ystod sesiwn hyfforddi yng Ngwlad Pwyl.

Bu cwynion fod rhai o drigolion Krakow wedi gwneud sŵn mwnci ar aelodau o garfan Bert van Marwijk yn ystod sesiwn hyfforddi oedd yn agored i’r cyhoedd ddydd Mercher.

Ddoe roedd capten yr Iseldiroedd Mark van Bommel yn dweud bod yr hyn ddigwyddodd “yn wirioneddol warthus”.

Mae UEFA bellach wedi cyhoeddi bod “gweiddi hiliol ymylol” wedi digwydd, ac os bydd hynny’n digwydd eto fe fyddan nhw’n gweithredu.

Meddai’r corff rheoli pêl-droed Ewropeaidd mewn datganiad: “Mae gan UEFA bolisi llym o beidio goddef ymddygiad hiliol ac mae wedi rhoi’r grym i ddyfarnwyr roi terfyn ar gemau os bydd unrhyw ymddygiad o’r fath yn cael ei ailadrodd.”